English
Anrhydeddu talent sydd yn blodeuo mewn dau wobr newydd i’r diwydiant
Cyhoeddodd Y Gymdeithas Ddarlledu Frenhinol heddiw y byddai ei Seremoni Wobrwyo Flynyddol ar ei newydd-wedd, yn dathlu gwneuthurwyr ffilm sydd yn fyfyrwyr a hefyd, am y tro cyntaf, yn dathlu pobl broffesiynol ifanc sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant teledu yng Nghymru.
Caiff Noson Wobrwyo RTS Cymru 2019 (Noson Wobrwyo Myfyrwyr RTS Cymru gynt) ei gynnal ar Chwefror 6 y flwyddyn nesaf yn adeilad Atriwm Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd.
Caiff y seremoni ei ehangu i gynnwys dau gategori diwydiannol ar gyfer 2019 sydd yn anelu at gystadleuwyr newydd:
- Gwobr Newydd-ddyfodiaid i’r Diwydiant
- Gwobr Torri Drwodd yn y Diwydiant
Bwriad y gwobrau a enwebir gan gyflogwyr, yw cydnabod a gwobrwyo talent newydd sy’n dod i’r brig. Ar gyfer Cymry newydd i’r diwydiant teledu mae’r wobr Newydd-ddyfodiaid. Yn benodol, dyma bobl sydd yn eu swydd gyflogedig cyntaf. Mae'r wobr Torri Drwodd yn y Diwydiant wedi ei anelu ar gyfer y sawl sydd wedi gwneud cynnydd pellach, gydag o leiaf dwy flynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant teledu, gan gyflawni o leiaf un credyd ar-sgrin.
Yn y ddau ddosbarth, gall y sawl a enwebwyd fod yn gweithio mewn unrhyw agwedd o’r broses cynhyrchu tu ôl i’r camera, gan gynnwys datblygu, ymchwil, rheoli cynyrchiadau a phob swyddogaeth crefft.
Dywedodd Judith Winnan, Cadeirydd RTS Cymru: “Mae’n bleser gennym i ehangu ein swyddogaeth addysgol o hyrwyddo talent ifanc Gymreig, drwy gyflwyno dwy wobr sydd yn canolbwyntio ar y diwydiant i fynd ochr yn ochr â’n hanrhydeddau arferol i fyfyrwyr.
“Gobeithiwn bydd Noson Wobrwyo RTS Cymru ar ei newydd wedd yn dod yn ddigwyddiad llawer mwy blaenllaw yng nghalendr blynyddol y cyfryngau wrth i ni gynnig astell ar gyfer y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr rhaglenni a chrefftwyr proffesiynol y bydd ein diwydiant yn elwa o’u harbenigedd yn y blynyddoedd i ddod."
Mae’r ddwy wobr yn atgyfnerthu ymrwymiad hirbarhaus gan RTS Cymru i gydnabod egin dalent o fewn y gymuned myfyrwyr. Dyma’r bedwaredd flwyddyn ar hugain o gael Noson Wobrwyo i Fyfyrwyr ac maent yn cydnabod y gwaith awdio-weledol gorau a grëwyd gan fyfyrwyr sydd yn mynychu sefydliadau addysg uwch ac am y tro cyntaf, yn cydnabod cyrsiau addysg bellach yng Nghymru.
Y dosbarthiadau gwobrwyo yw: Animeiddio; Comedi & Adloniant; Drama; Ffeithiol; Newyddion; a Ffurf fer.
Pobl broffesiynol profiadol o’r prif ddarlledwyr, y sector gynhyrchu teledu annibynnol a’r sectorau addysg uwch a phellach fydd ymhlith y beiriniad.
Yn unol â’r blynyddoedd blaenorol, bydd enillwyr pob dosbarth yn mynd ymlaen i gystadlu yng Ngwobrau Teledu Myfyrwyr yr RTS dros Brydain yn Llundain ar Fehefin 28, 2019.
Hydref 26, 2018 yw’r diwrnod cau ar gyfer derbyn ceisiadau cystadlu gan Fyfyrwyr.
Ionawr 14, 2019 yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer y gwobrau Newydd-ddyfodiaid i’r Diwydiant a Thorri Drwodd yn y Diwydiant.
Dyllir anfon enwebiadau ar gyfer y ddwy wobr newydd at: awardsentry.rts.org.uk/entrant.
Am fwy o wybodaeth, byddwch cystal â mynd i’r gwefannau isod:
RTS Student Television Awards 2019 - Criteria (feil PDF)
RTS Cymru Awards - New categories - Criteria