Yn dilyn llwyddiant Sinemaes yn Eisteddfod y llynedd, mi fydd yr RTS unwaith eto yn cymryd rhan yn y fenter ar y cyd yma, gyda thri digwyddiad cyffroes.
Mae’r ŵyl yn cael ei gynnal y flwyddyn yma ym Modedern, Ynys Môn, LL65 3SS, o Awst 4 - 12
Mi fydd yr RTS yn cynnal y digwyddiadau canlynol mewn cysylltiad â Sinemaes:
7 Awst 3.00pm Bodedern, |
Sinemaes: Ffermio. Cyfle i edrych ‘nol ar y gyfres eiconig.
|
Mynediad am ddim ond mi fydd angen tocyn maes. Cyfieithu ar y pryd ar gael |
8 Awst 11.00am Porthaethwy
|
Ymweliad â set cyfres ddrama ieuenctid S4C, Rownd a Rownd, ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Cyfarwyddiadau i Rownd a Rownd (Word doc.) |
Mynediad am Ddim. Does dim angen tocyn maes ond cysylltwch â Hywel Wiliam gan fod niferoedd yn gyfyngedig. |
8 Awst 2.30pm Bodedern, |
Sinemaes: Dathliad o Rownd a Rownd gyda Bedwyr Rees (cynhyrchydd), Tony Llewelyn (golygydd sgript). Y cadeirydd fydd Iestyn Garlick, cynhyrchydd annibynnol ac un o aelodau hiraf cast y gyfres . |
Mynediad am ddim ond mi fydd angen tocyn maes. Cyfieithu ar y pryd ar gael |
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Hywel Wiliam, Gweinyddwr, RTS Cymru
07980 007 841 neu Hywel.Wiliam@rts.org.uk