Mae hwn yn gyfle i glywed barn Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, y Cynulliad Cenedlaethol, ar gyflwr presennol y cyfryngau yng Nghymru. Yn ymuno â hi ar y panel fydd Huw Marshall (Cyfarwyddwr Awr Cymru a chyn-bennaeth digidol, S4C), Dr Ruth McElroy (Darllenydd mewn Astudiaethau Teledu, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol De Cymru) a Martin Shipton (Prif Newyddiadurwr, y Western Mail).
Bydd y drafodaeth yn cwmpasu nifer o bynciau, gan gynnwys dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus, lluosogrwydd, cyfryngau rhyngweithiol a teledu ar alw. Bydd y sesiwn hefyd yn edrych ar y rhaglen waith mae'r Pwyllgor wedi gosod ei hun yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn ei rôl wrth graffu ar Lywodraeth Cymru.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Tim Hartley, Cadeirydd RTS Cymru.
Bydd lluniaeth a cyfieithu ar y pryd ar gael.
RSVP: Hywel Wiliam, hywel@aim.uk.com neu 07980 007 841