Hywel Wiliam, Begw Dafydd Roberts, Eryl Huw Philips, Cian Dafydd Roberts, Gethin Cennin Williams, Hedydd Ioan, and Tim Hartley
"Weithiau mae'r delweddau fwyaf ysbrydoledig yn cael eu creu drwy hap a damwain", awgrymodd y Cyfarwyddwr Eryl Huw Philips mewn trafodaeth gyda gwneuthurwyr ffilmiau ifanc yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Cynhaliwyd digwyddiad 'Cyfarwyddwyr y Dyfodol' yn 'Sinemaes', sinema mewn tipi ar faes yr Eisteddfod (chwith), a oedd yn cynnwys 50 o ddigwyddiadau dros wyth diwrnod mewn partneriaeth gan gynnwys RTS Cymru, BAFTA Cymru, Ffilm Hub Cymru, BFI Net.Work, Chapter, Ffilm Cymru Wales, ac Archif Sgrin a Sain Cenedlaethol Cymru.
Graddiodd Philips fel actor ond symudodd yn ddiweddarach i gyfarwyddo a chynhyrchu. Ymhlith ei gredydau mae'r ddrama S4C wleidyddol Byw Celwydd, The Indian Doctor, a drama Michael Sheen, The Gospel of Us. Roedd e'n siarad â Hedydd Ioan, sy'n 13 mlwydd oed a chynhyrchydd y ffilm, Bywyd, enillydd yng Ngŵyl Zoom Cymru eleni, a ddangoswyd yn ystod y drafodaeth. Awgrymodd Philips fod un olygfa, o bupur coch yn cael ei dorri, yn cysylltu â delwedd o'r ardd fotaneg a oedd i'w weld yn ddiweddarach yn y ffilm, ond cyfaddefodd Ioan mae'n debyg mai damwain oedd hyn. Ond fe gytunodd, fodd bynnag, bod y ffordd orau i ddysgu am ffilm yw cynhyrchu un.
Y panelwyr eraill, a oedd hefyd yn aelodau o'r clwb ffilm eithriadol yn Nyffryn Nantlle oedd Begw Dafydd Roberts (11), a oedd yn gweithio ar ffilm ei hun am ymosodiad estron, Cian Dafydd Roberts (13), a Gethin Cennin Williams (13), a gymerodd ran yn y tair ffilm fer a ddangoswyd yn ystod y drafodaeth. Mae'r grŵp wedi ennill un ar ddeg o wobrau ac enwebiadau dros y ddwy flynedd diwethaf mewn gwyliau ffilm ieuenctid. Yn ogystal, yng Ngwyl Zoom eleni, enillodd Ioan ddwy wobr gyntaf a'r ail le yn y wobr ar gyfer y person ifanc sy'n dangos yr addewid fwyaf. Mewn cyfarfod a'r teitl "Cyfarwyddwyr y dyfodol", mae gwneud ffilmiau yng Nghymru yn ymddangos i fod mewn dwylo da.