Cyfle i ymuno mewn sgwrs gyda rhai o'n cyfarwyddwyr ifanc sy'n aelodau o Grŵp Ffilm Dyffryn Nantlle.
Mi fydd Eryl Huw Phillips, cyfarwyddwr nifer o gynyrchiadau, gan gynnwys Y Palmant Aur, Byw Celwydd a Pobol y Cwm, yn sgwrsio gyda Hedydd Ioan, Begw Dafydd Roberts, Cian Dafydd Roberts, a Gethin Cennin Williams, ac mi fydd y sesiwn yn cynnwys dangosiadau o'r ffilmiau canlynol:
Plant y Gwyll, Dirgelwch y Cromen, a Bywyd.
Dewch i glywed gan wneuthurwyr ffilm a theledu'r dyfodol!
O.N: Mae'r digwyddiad yma am ddim, ond bydd angen prynu tocyn er mwyn cael mynediad i'r Maes.
RSVP
Hywel Wiliam
Gweinyddwr, RTS Cymru
hywel@aim.uk.com
07980 007 841