Noson o ddathlu Gwobrau RTS Cymru 2020

Noson o ddathlu Gwobrau RTS Cymru 2020

Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon
Thursday, 27th February 2020

Cafodd sgiliau, talent a chreadigrwydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant teledu a gwneuthurwyr ffilmiau myfyrwyr yng Nghymru eu dathlu heno yng Ngwobrau RTS Cymru 2020.​

Cyflwynwyd y seremoni, a gynhaliwyd mewn partneriaethâ Whisper Cymru, gan y personalaethau teledu poblogaidd, Sean Fletcher a Ruth Wignall.

Daeth enillwyr y pum categori diwydiant a enillwyr y pedwar categori myfyrwyr i'r llwyfan yn Cineworld, Caerdydd, i dderbyn tlws mawreddog RTS am eu ceisiadau. 

Dywedodd Judith Winnan, Cadeirydd RTS Cymru Wales: 

“Mae wedi bod yn fraint wirioneddol i ddathlu’r dalent anhygoel yma yng Nghymru gyda’r gwobrau diwydiant newydd hyn ac rwyf am ddiolch i’r holl noddwyr, aelodau pwyllgor RTS Cymru ac wrth gwrs yr holl ymgeiswyr a gefnogodd y seremoni heno a'i gwneud yn bosibl.
Mae safon yr hyn rydyn ni wedi'i weld heno gan fyfyrwyr a'r diwydiant yn wefreiddiol ac rwy'n mawr obeithio y gallwn ni dyfu'r gwobrau hyn ymhellach gyda chategorïau diwydiant eraill i gydnabod mwy o'r gwaith cyffrous sy'n dod allan o Gymru."  

Yn ogystal ag anrhydeddau hirsefydlog y myfyrwyr, estynnwyd gwobrau blynyddol RTS Cymru eleni i ganiatáu i ddarlledwyr a chynhyrchwyr annibynnol gyflwyno ceisiadau yn y categorïau Diwydiant newydd.

Dewiswyd y rhestrau byr gan reithgorau arbenigol sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant ac addysg ar gyfer pob un o'r categorïau.

 

ENILLWYR DIWYDIANT

Drama: 

  • In My Skin  (Expectation Entertainment ar gyfer BBC Cymru Wales)

Ffeithiol:  

  • Code Blue  (MultiStory Cymru/ITV Wales ar gyfer ITV)

Plant: 

  • Going for Gold  (Yeti Television ar gyfer CBBC)

Newyddion a Materion Cyfoes: 

  • Y Byd Ar Bedwar [Adroddiad Ynys Bŷr] (ITV Cymru Wales ar gyfer S4C)

Gwobr Torri Trywddo: 

  • Toby Cameron 

ENILLWYR MYFYRWYR

Drama: 

  • D.O.A.L [Department of Affordable Living]  (Prifysgol De Cymru)

Ffeithiol: 

  • Rutted Fields  (Prifysgol Aberystwyth)  

Ffurf Fer: 

  • Stranded  (Prifysgol De Cymru)

Ôl-raddedig: 

  • Searching for Happiness  (Prifysgol Bangor)

ENILLWYR CREFFT MYFYRWYR

Sain Is-raddedig:

  • Elis Derby: Fi ac OCD (Prifysgol Bangor)

Gwaith Camera Is-raddedig:

  • The Midnight Court and Other Aislings (Prifysgol De Cymru)

Sain Ôl-raddedig: 

  • Ewan Allman (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

Cyfarwyddwr Ôl-raddedig: 

  • Host or Hostile? (Prifysgol Caerdydd)

You are here

Cafodd sgiliau, talent a chreadigrwydd gweithwyr proffesiynol y diwydiant teledu a gwneuthurwyr ffilmiau myfyrwyr yng Nghymru eu dathlu heno yng Ngwobrau RTS Cymru 2020.​