English
Cyhoeddi rhestrau byr ar gyfer Gwobrau RTS Cymru 2020
Heddiw, cyhoeddodd y Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) yng Nghymru enwebiadau ar gyfer eu gwobrau 2020, gan ddathlu'r cynnwys gorau gan weithwyr proffesiynol y diwydiant teledu a myfyrwyr sy'n gwneud ffilmiau yng Nghymru.
Bydd Gwobrau RTS Cymru 2020 yn cael eu cynnal ddydd Iau, 27ain Chwefror yn Cineworld yng Nghaerdydd. Bydd y noson yn cael ei arwain gan y cyflwynwyr teledu poblogaidd, Sean Fletcher a Ruth Wignall.
Mae RTS Cymru Wales hefyd yn falch iawn o gyhoeddi mai Whisper Cymru, yr arbenigwr chwaraeon a cynhyrchu digwyddiadau byw, fydd Partner Teitl y gwobrau eleni.
Yn ogystal ag anrhydeddau y myfyrwyr hirsefydlog, mae'r gwobrau blynyddol wedi'u hymestyn eleni i ganiatáu i ddarlledwyr a chynhyrchwyr annibynnol gyflwyno ceisiadau yn y categorïau Diwydiant newydd:
- Drama
- Ffeithiol
- Plant
- Newyddion a Materion Cyfoes
- Y wobr Breakthrough
Dewiswyd y rhestrau byr gan reithgorau arbenigol, sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant darlledu a’r byd addysg, ar gyfer pob un o'r categorïau.
Dywedodd Judith Winnan, Cadeirydd RTS Cymru Wales:
“Rydyn ni wrth ein boddau â safon uchel a nifer uchel y ceisiadau yn ystod blwyddyn gyntaf ein Gwobrau Diwydiant. Mae’r Gwobrau Myfyrwyr, sydd bellach yn eu 25ain blwyddyn, yn parhau i danlinellu cyfoeth talent ifanc yng Nghymru.”
Ychwanegodd:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Whisper Cymru a’n noddwyr eraill am eu cefnogaeth.”
Enwebiadau Diwydiant
Drama:
- In My Skin (Expectation Entertainment ar gyfer BBC Cymru Wales)
- Merched Parchus (Ie Ie ar gyfer s4C)
- Pili Pala (Triongl ar gyfer S4C)
Ffeithiol:
- Code Blue (Shiver Cymru ar gyfer ITV)
- The Incurable Optimist (Kailash Films ar gyfer BBC Cymru Wales)
- Priodas Pum Mil (Boom Cymru ar gyfer S4C)
- 1900 Island (Wildflame ar gyfer BBC Cymru Wales)
Plant:
- Deian a Loli (Cwmni Da ar gyfer S4C)
- Going For Gold (Yeti Television ar gyfer CBBC)
- Prosiect Z (Boom Cymru ar gyfer S4C)
- Shane the Chef (HoHo Entertainment & Clothcat Animation ar gyfer Channel 5 & S4C)
Newyddion & Materion Cyfoes:
- Y Byd Ar Bedwar (ITV Cymru Wales ar gyfer S4C)
- Ein Byd (ITV Cymru Wales ar gyfer S4C)
- Newid Hinsawdd, Newid Byd (Teledu Tinopolis Cymru ar gyfer S4C)
- Wales Investigates ( BBC Cymru Wales)
Gwobr Breakthrough:
- Toby Cameron
- Elen Davies
- Mo Jannah
- Hanna Jarman a Mari Beard
Enwebiadau Myfyrwyr
Drama:
- D.O.A.L [Department of Affordable Living] (Prifysgol De Cymru)
- The Midnight Court and Other Aislings (Prifysgol De Cymru)
- Retribution (Coleg y Cymoedd)
Ffeithiol:
- Elis Derby: Fi ac OCD (Prifysgol Bangor)
- Rutted Fields ((Prifysgol Aberystwyth)
- Sex, Love and Lectures (Prifysgol De Cymru)
Ffurf Fer:
- Locomotion (Prifysgol De Cymru)
- Stranded (Prifysgol De Cymru)
- Where r u? (Prifysgol Bangor)
Ôl-Raddedig:
- Ewan Allman (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
- Host or Hostile? (Prifysgol Caredydd)
- Searching for Happiness (Prifysgol Bangor)
Mae tocynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo wedi gwerthu allan.
- Croeso: 6.30pm-7.30pm
- Seremoni wobrwyo: 7.30pm-8.30pm
- Archebwch yma