Mae'n amser dathlu!

Mae'n amser dathlu!

Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon
Tuesday, 6th December 2022
Gwobrwyon RTS Cymru Wales 2023

Mae RTS Cymru Wales yn falch iawn o gyhoeddi bod enwebiadau ar agor ar gyfer y gwobrau blynyddol sydd ar y gweill a fydd yn cael eu cynnal fis Ebrill nesaf.

Fel erioed, mae'n ddathliad o dalent sydd i ddod ar ffurf ei Gwobrau Myfyrwyr, ochr yn ochr â chydnabyddiaeth i wneuthurwyr y rhaglenni yn ein diwydiant yma yng Nghymru. Mae categorïau myfyrwyr yn cynnwys animeiddio, drama, a ffeithiol, gyda chofnodion ar gyfer israddedig ac ôl-raddedig. Ac rydym yn gyffrous iawn i gyflwyno llu o gategorïau newydd ar gyfer ein gwobrau diwydiant.

Yn ogystal â dychwelyd categorïau sydd wedi hen ennill eu plwyf fel Drama a Phlant, mi rydym yn cynnig mwy o gyfleoedd i'r rhai sy'n gwneud teledu ffeithiol trwy gynnig categorïau ar wahân ar gyfer eitemau Adloniant, Dogfen, Rhaglen Ddogfen Chwaraeon a Newyddion Byr. Byddwn hefyd yn dathlu ar dalent sgrin ar ffurf y Cyflwynydd a Pherfformiad Drama gorau o Gymru.  Am y tro cyntaf, byddwn yn coffáu rolau pwysig sy'n aml yn mynd heb i neb sylwi megis Rheolwr Cynhyrchu a Rheolwr Lleoliad. Ac i adlewyrchu'r ffordd y mae teledu bellach yn cael ei wylio, rydym wedi mireinio ein Categori Digidol, a hefyd wedi cynnwys Newyddiaduraeth Amlsgilio.

Dywed Edward Russell, Cadeirydd RTS Cymru

"Roedd ein digwyddiad ar ôl y pandemig yn 2022 yn teimlo bron fel ail-osod ar gyfer y Gwobrau, gyda llawer yn cael eu cyflwyno i'r hyn yr ydym yn ei wneud am y tro cyntaf. Rydym yn falch iawn o fod yn ehangu ein categorïau eleni ac rwy'n arbennig o gyffrous am sut rydym yn agosáu at raglenni ffeithiol, sy'n gynyddol bwysig yn ein rhanbarth.

Wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud yw cynnig cyfleoedd i'r rhai sy'n newydd i'n diwydiant, yn ogystal â dathlu rhai o'r rolau sydd ddim bob amser yn cael y sylw maen nhw'n ei haeddu, ac rwy'n gobeithio y bydd ein sioe Gwobrau 2023 yn helpu i daflu goleuni ar y rhai sy'n haeddu cael eu gweld."

Rydym yn falch iawn o fod yn dychwelyd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer y digwyddiad Gwobrau ar 21 Ebrill 2023 a bydd manylion am sut i fynychu yn dilyn.

Am y rhestr lawn o gategorïau, meini prawf ac i gyflwyno eich cofnodion, ewch i: rts.org.uk/award/gwobrwyon-rts-cymru-wales-awards-2023 

You are here

Mae RTS Cymru Wales yn falch iawn o gyhoeddi bod enwebiadau ar agor ar gyfer y gwobrau blynyddol sydd ar y gweill a fydd yn cael eu cynnal fis Ebrill nesaf.