Mae'n bleser gan RTS Cymru Wales gyhoeddi bod ei gwobrau blynyddol yn dychwelyd yn dilyn seibiant yn 2021.
Yn ogystal â dathlu'r gwaith gorau oll gan fyfyrwyr, mae RTS Cymru Wales yn ehangu ei gwobrau diwydiant a hefyd yn caniatáu i wneuthurwyr rhaglenni gyflwyno enwebiadau ar gyfer 2020 a 2021 i ddathlu o waith caled talent Cymru yn ystod cyfnod mwyaf heriol teledu.
Mae RTS Cymru Wales hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd digwyddiad wyneb-yn wyneb yn cael ei gynnal yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd gyda’r nos ar 8fed Ebrill 2022. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â'n haelodau, y diwydiant teledu Cymraeg, a'r myfyrwyr a fydd yn creu cynnwys y dyfodol at ei gilydd i ddathlu. Cyhoeddir manylion y digwyddiad hwnnw a sut i brynu tocynnau yn ystod y misoedd nesaf.
Bydd Gwobrau Myfyrwyr ar gyfer y categorïau canlynol gyda dyfarniadau ar wahân i israddedigion a raddedigion:
- Animeiddiad
- Drama
- Ffeithiol
- Newyddion a Chwaraeon
- Cynaliadwyedd
Gellir dod o hyd i fanylion llawn y meini prawf fan hyn, a’r dyddiad cau yw 8 Tachwedd 2021.
Ar gyfer Gwobrau Diwydiant, gall gwneuthurwyr rhaglenni gyflwyno ddwywaith - unwaith ar gyfer rhaglenni a ddarlledwyd gyntaf yn 2020, ac unwaith ar gyfer rhaglenni a ddarlledwyd gyntaf yn 2021. Y categorïau yw:
- Plant
- Newyddion / Materion Cyfoes
- Drama
- Torri drwodd
- Mae hon yn wobr i aelod o'r tîm
Yn ogystal, mae dau gategori newydd:
- Wedi'i wneud yn ystod y cyfnod cloi
- Ar gyfer rhaglenni a wnaed yn 2020 o dan amgylchiadau’r cyfnod cloi
- Cynnwys Digidol ffurf fer
- Cynnwys o unrhyw genre a gomisiynwyd yn wreiddiol ar gyfer platfform ar-lein neu gymdeithasol
Y dyddiad agor a chau ar gyfer pob cais yw dydd Llun 18 Hydref 2021 i ddydd Llun 31 Ionawr 2022.
Gellir dod o hyd i fanylion llawn fan hyn.
Meddai Edward Russell, Cadeirydd RTS Cymru Wales:
“Mae’n bwysig i gynnwys gwobrau ar gyfer ein blwyddyn ‘goll’ fel y gallwn adlewyrchu cynnwys gafodd ei greu yn ystod cyfnod mwyaf heriol y diwydiant hyd yma.
Dangosodd 2020 wir bwysigrwydd teledu, boed ar gyfer newyddion, addysg neu adloniant, ac rydym eisiau rhoi’r sylw ar y rhai wnaeth y rhaglenni.
Rydym ni hefyd yn hynod o gyffrous i’ch gweld chi wyneb yn wyneb mewn noson ddifyr mewn lleoliad gwych, ac i roi cyfle i’r diwydiant ac i fyfyrwyr i ddathlu gyda’i gilydd.”