Lansiad 'Gwladigidol'

Lansiad 'Gwladigidol'

Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon
By Hywel Wiliam / Tim Hartley,
Monday, 27th January 2014

Above: Non Gwilym, Tim Hartley, Emma Meese (C4CJ), Bruce Etherington (Prifysgol Caerdydd), Ken Skates AM, Karen Roberts, a Sarah Mosely

Ar y 7fed o Awst yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych, cymerodd Canolfan Cymru rhan yn lansiad fforwm newydd fydd yn rhannu arfer gorau mewn creu cynnwys digidol.  Bydd Gwladigidol (Cenedl Digidol) yn cymryd drosodd oddi wrth Rhwydwaith Llythrennedd yn y Cyfryngau Cymru gan dynnu ynghyd pawb sydd a diddordeb mewn ymchwilio i botensial technolegau newydd.  Yn ganolog i hyn oll fydd Calendr Digwyddiadau Cyfryngau Digidol ar gyfer digwyddiadau allweddol fydd yn ganolog i’r portal gwybodaeth newydd.

Wrth annerch cynulleidfa o gynhyrchwyr, comsiynwyr ac academyddion, dywedodd Karen Roberts, Cadeirydd Gwladigidol, “Mae bywyd yn cydgyfeirio drwy dechnoleg a chyn hir bydd y stafell fyw yn hwb digidol canolog ein cartrefi gyda’r smart TV wrth ei galon".  Mae ymchwil Ofcom yn cefnogi’r asesiad yma.  Mae’n dangos fod 91% o wylio teledu yng Nghymru yn dal i ddigwydd drwy gyfrwng y brif set deledu yn y stafell fyw.

Agorwyd y digwyddiad gan Ken Skates AC, Dirprwy Weinidog ar gyfer Sgiliau a Thechnoleg, a gadeiriodd ymchwiliad y Cynulliad Cenedlaethol i’r cyfryngau yng Nghymru.  Cyflwynodd Elinor Williams o Ofcom y data diweddaraf ar deledu a deunyddiau clyweledol a soniod Robin Owain o Monopedia sut mae Trefynwy yw tref Wikepedia cynta’r byd.  Dangoswch eich ffon i’r arwyddion!  Esboniodd Huw Marshall o S4C sut y bydd rhaglenni Cymraeg i gyd ar gael ar i-Player y BBC (erbyn hydref 2014) a hefyd ar YouView a Catch-Up TV.

Yn ol Tim Hartley, Cadeirydd RTS Cymru, "Mae Gwladigidol ar flaen y gad wrth i ni gyd wynebu’r newidiadau enfawr sydd ar droed ym myd teledu a thechnolegau rhyngweithiol.  Bydd y fforwm yma’n cynnig ffocws i bob un ohonom sy’n gweithio yn y meysydd gwahanol ond cyd-ddibynnol yma yng Nghymru".
 

You are here