Cyfweliad gyda Ron Jones, Tinopolis

Cyfweliad gyda Ron Jones, Tinopolis

Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon
By Hywel Wiliam,
Friday, 3rd October 2014

Above: Tim Hartley gyda Ron Jones a Sara Moseley (Prifysgol Caerdydd)

'Mae e nawr neu byth', meddai Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol, grŵp Tinopolis, wrth sôn am y cyfleoedd ar gyfer Cymruyn Siarter newydd y BBC.

Roedd Ron Jones yn tynnu dim-ar-dafod wrth gwestiynu atebolrwydd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus Cymru, trwy alw am drwydded gwasanaeth BBC newydd penodol ar gyfer Cymru.  Yn y digwyddiad RTS Cymru ar y cyd ag Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, mi roedd Ron Jones yn siarad â Tim Hartley, Cadeirydd Canolfan RTS Cymru, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli, 5 Awst 2014.  Y dref yw cartref y grŵp Tinopolis, sy'n cynnwys Mentorn, Sunset + Vine, Daybreak a chwmnïau cynhyrchu eraill fyd-eang.  Jones hefyd yw Cadeirydd Bwrdd Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn cwestiwn ar adnewyddu Siarter y BBC, dywedodd Ron Jones, "Mae angen inni fod yn ofalus yn ystod y ddadl a sicrhau bod Cymru yn cael setliad teg".  Ychwanegodd bod canlyniad yr ail adolygiad o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, pan wnaeth Ofcom ganiatâi i ITV wneud toriadau yn ei wasanaeth, wedi arwain at golled enfawr i Gymru.  Fodd bynnag, yn ystod y digwyddiad fe wnaeth Huw Rossiter o ITV Cymru anghytuno a'r gosodiad yma, gan gyfeirio at lwyddiant gwasanaeth newyddion nos weithiol ITV, sy'n denu dros 1.4 miliwn o wylwyr bob mis.

Mi roedd Ron Jones yn canmol sylwadau diweddar Tony Hall am ehangu'r ffenestr cystadleuaeth greadigol y BBC, ac mewn ymateb i gwestiwn gan Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, awgrymodd y byddai'r newid yma'n creu cyfleoedd sylweddol ar gyfer cwmnïau annibynnol Cymru, pe bai nhw'n barod i "ymddwyn fel busnesau".  Ychwanegodd y byddai hefyd yn rhoi hwb i'r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru sy'n cefnogi mwy na 80,000 o swyddi.  Mi roedd y penderfyniad diweddar gan Pinewood i greu stiwdio newydd yng Nghymru, yn dilyn cymhellion a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn cynrychioli cyfle sylweddol.
 

You are here