Digwyddiad Nadolig RTS Cymru
Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol , S4C
Ar gyfer ein digwyddiad Nadolig, mi fydd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, yn son am ei gweledigaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae Amanda yn arwain tîm creadigol S4C gyda’r amcan o gomisiynu cynnwys traws-lwyfannol sy'n creu’r sgwrs, tanio’r dychymyg a chyffwrdd calonnau’r gwylwyr. Ei uchelgais yw parhau i feithrin perthynas gref a phwysig gyda gwylwyr ffyddlon y sianel yn ogystal â sefydlu perthynas newydd, gyffrous gyda’r gynulleidfa nad ydynt yn gwylio yn rheolaidd ar hyn o bryd. Cyn ymuno ag S4C, roedd Amanda yn wneuthurwr rhaglenni dogfen llewyrchus a chyfarwyddwr ei chwmni teledu ei hun, TiFiNi. Enillydd gwobr BAFTA Cymru ac enwebai nifer o wobrau eraill, mae gan Amanda ddealltwriaeth drylwyr ac eang o'r diwydiant cynhyrchu yng Nghymru a thu hwnt. Bu’n ffilmio mewn dros 35 o wledydd ar gyfer sianelau byd-eang megis Channel 4, BBC, ITV, National Geographic, S4C, UKTV a Foxtel. Cafodd Finding Mum and Dad, sef comisiwn cyntaf TiFiNi i Channel 4, ei enwebi am wobr Grierson, Bulldog, a gwobr Broadcast (Rhaglen Ddogfen Orau 2015). Mae Amanda hefyd yn astudio MSc mewn Seicoleg Busnes ym Mhrifysgol Cwyntry. |
RSVP Hywel Wiliam, 07980 007 841