Tickets are now on sale for our annual awards ceremony which will take place on 11thApril at the Royal Welsh College of Music and Drama in Cardiff.
Bydd tocynnau nawr ar werth ar gyfer ein seremoni wobrwyo flynyddol a gynhelir ar yr 11eg o Ebrill yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
The RTS Cymru Wales Awards 2025 in partnership with HP will celebrate the very best of the television Industry and Student output of the past year. A full list of nominations can be found here.
Hosted by comedian Leroy Brito and presenter Angharad Mair, there will be a drinks reception at 6pm followed by a ceremony in the Dora Stoutzker Hall. The celebrations continue with an after party and disco until midnight. Dress code is smart, so make sure you look your best for the red carpet. Tickets cost £57.
Seating is not allocated in advance and ticket holders should enter the hall promptly when the doors are opened to choose their preferred seating area.
This year we are also providing a lifetime achievement award to Menna Richards, former Controller of BBC Wales from 2000 to 2011 and one of the key players in the success of Doctor Who when it returned to our screens twenty years ago.
Bydd Gwobrau RTS Cymru Wales 2025 mewn partneriaeth â HP yn dathlu’r goreuon o blith y Diwydiant Teledu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys llwyddiant ein myfyrwyr. Mae rhestr lawn o enwebiadau ar gael yma.
Bydd y seremoni yn cael ei harwain eleni o dan ofal y digrifwr Leroy Brito a’r gyflwynwraig Angharad Mair. Bydd derbyniad diodydd am 6pm ac yna seremoni i ddilyn yn Neuadd Dora Stoutzker. Bydd y dathliadau wedyn yn parhau gyda pharti a disgo tan hanner nos. Smart yw'r côd gwisg, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar eich gorau ar gyfer y carped coch. Pris y tocynnau yw £57.
Nid yw seddau'n cael eu cadw a dylai mynychwyr fynd i mewn i'r neuadd yn brydlon pan fydd y drysau'n cael eu hagor i ddewis eu hoff le.
Eleni rydym hefyd yn darparu gwobr cyflawniad oes i Menna Richards, cyn-reolwr BBC Cymru rhwng 2000 a 2011 ac un o'r chwaraewyr allweddol yn llwyddiant Doctor Who pan ddychwelodd i'n sgriniau ugain mlynedd yn ôl.