Esblygiad y Gohebydd Pêl-Droed (Digwyddiad iaith Gymraeg)

Esblygiad y Gohebydd Pêl-Droed (Digwyddiad iaith Gymraeg)

Thursday, 3 June, 2021
16:00

Location

United Kingdom
Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon
Centre Event

Gyda mwy o bêl-droed yn cael ei ddarlledu ledled y byd nag erioed o'r blaen a chyda chynnydd darllediadau pêl-droed menywod yn ychwanegu at dwf gallu ffrydio byw ar alw, mae mwy o bêl-droed i'w hadrodd arno nag erioed o'r blaen.

Felly, hoffech wybod beth sydd ei angen i fod yn ohebydd pêl-droed? Sut i ofyn y cwestiwn lladd? Sut i sgwennu stori drosglwyddo fawr? Sut i saethu a golygu eich cyfweliadau? Sut i adeiladu eich cysylltiadau a thorri i mewn i chwaraeon a ddarlledir yn y lle cyntaf? A sut olwg allai fod ar y dirwedd honno mewn pum mlynedd o amser.

Ar Ddydd Iau 3 Mehefin, mae RTS Cymru Wales yn cynnal trafodaeth banel ar-lein o'r enw "Esblygiad y Gohebydd Pêl-Droed".

Mae detholiad o ohebwyr pêl-droed mwyaf blaenllaw Cymru yn dod at ei gilydd i drafod, a dadansoddi rôl y gohebydd pêl-droed ac i roi cipolwg i chi ar ddiwrnod cyffredin yn eu bywydau, o gynhadledd i'r wasg cyn y gêm i chwiban llawn amser a thu hwnt - boed hynny ar gyfer sioe Sadwrn Soccer Sky Sports (Abi Davies a Bryn Law) neu raglen Sgorio S4C (Sioned Dafydd Rowlands) Sgôr Derfynol y BBC (Laura Kenyon a Marc Webber) neu ddarllediadau BBC Sport Wales, BBC Sport Wales Radio Wales (Ian Hunt) a Radio Cymru (Owain Llyr) neu'n fyw ar yr awyr gogyfer 5 Live Sport (Naz Premji).

Bydd y paneli, un yn Saesneg am 2pm, ac un yn Gymraeg am 4pm yn cael eu cynnal gan Steff Garerro (cynhyrchydd chwaraeon arobryn a darlledwr y BBC) a Nic Parry (prif sylwebydd pêl-droed S4C) 

Mae'r drafodaeth yn rhan o Expo'r Wal Goch gŵyl ar-lein pedwar diwrnod sy'n cynnig llwyfan i archwilio effaith gymdeithasol, ddiwylliannol a gwleidyddol pêl-droed Cymru.

Associated Regional Term: 
Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon

Related Events

From her award winning debut The Devil's Doorway to the Academy's...
Belfast
Tue, 30/04/2024

Gyda mwy o bêl-droed yn cael ei ddarlledu ledled y byd nag erioed o'r blaen a chyda chynnydd darllediadau pêl-droed menywod yn ychwanegu at dwf gallu ffrydio byw ar alw, mae mwy o bêl-droed i'w hadrodd arno nag erioed o'r blaen.