Mae'r hyn a elwir yn 'strwythur o gynnig' yn caniatáu i dronau gyfleu y byd go iawn ar lefel sy'n manylu y tu hwnt i waith camera fideo confensiynol. Nawr mae'r diwydiant vfx yn deffro i'r potensial am dronau i symleiddio'r busnes hynod o llafurus o ail-greu tirweddau ac adeiladau mewn byd CGI. Mae Michael Surcombe yn archwilio rhai o'r posibiliadau yn y maes hwn, ac mae hefyd yn cynnal arolwg o gyflwr presennol o’r defnyudd o dronau yn y byd teledu.
Gweithiodd Michael i'r BBC am bron i 20 mlynedd, yn bennaf fel cynhyrchydd mewn rhaglennu ffeithiol a cherddoriaeth. Yn 2013 daeth yn Arweinydd Arloesi cyntaf BBC Cymru a sefydlodd yr uned ffilmio awyr fewnol. Yn 2015 sefydlodd ei gwmni ei hun, Leaping Wing, yn arbenigo mewn ffilmio o'r awyr a ffurfiau eraill o gipio data o'r awyr. Mae wedi ffilmio'n rheolaidd ar gyfer Newyddion y BBC, Countryfile, Coast a chyfresi dogfen eraill. Yn fwy diweddar bu hefyd yn gweithio ar y ddrama Rhwydwaith A Very English Scandal. Mae Michael hefyd yn hyfforddi gweithredwyr drôn o bob rhan o'r diwydiant, gan gynnwys aelodau o'r tîm a weithiodd ar y Blue Planet.
Mae parcio ar gael yn y maes parcio nesaf at y clwb.
RSVP: Hywel Wiliam