Sut olwg fydd ar dirwedd teledu Cymru ar ôl cyfnod y cloi, a pha ddatblygiadau arloesol fydd angen i’r darlledwyr eu meithrin i sicrhau parhad rhaglenni a gwasanaethau o safon uchel i gynulleidfaoedd yng Nghymru?
Bydd y cwestiynau hyn a chwestiynau pwysig eraill sy’n effeithio ar y sector yn cael eu harchwilio mewn gweminar byw “Darlledu yng Nghymru – y cyfnod cloi a thu hwnt”, a drefnwyd gan RTS Cymru ddydd Llun 15 Mehefin am 3.00pm.
Aelodau’r panel fydd penaethiaid darlledwyr cyhoeddus Cymru:
- Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru Wales
- Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni, ITV Cymru Wales
- Owen Evans, Prif Weithredwr, S4C
Bydd y sesiwn cael ei chadeirio gan Sian Morgan Lloyd, Darlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd a cyn-newyddiadurwraig a chynhyrchydd materion cyfoes teledu.
Bydd yn gyfle i ofyn i'r panel am y newidiadau a'r heriau mae cyfnod y cloi wedi creu i’r sector teledu yng Nghymru. Ar adeg pan mae'r diwydiant yn dod â chymaint o gefnogaeth i wylwyr trwy newyddion, tiwtora gartref ac adloniant, bydd y sesiwn hefyd yn adolygu digwyddiadau'r misoedd diwethaf ac yn gofyn beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig, yn enwedig i’r sawl sydd â chwestiynau am eu bywyd gwaith yn y dyfodol. .
Dywedodd Edward Russell, Cadeirydd RTS Cymru:
"Gyda chymaint o bobl yn chwarae eu rhan yn ystod yr amser anodd hwn, rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni gydnabod y cyfraniad hanfodol mae teledu wedi ei wneud at gysylltu’r gynulleidfa â’i gilydd.
Ni allwn ragweld y dyfodol, ond gallwn baratoi ar ei gyfer, ac mae hwn yn gyfle i glywed gan y tri darlledwr wrth i ni archwilio beth fydd y ‘normal’ newydd yng Nghymru."
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad byw: