Mae’n bleser gan RTS Cymru Wales gyhoeddi manylion eu sioe wobrwyo a fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar yr 8fed o Ebrill mewn partneriaeth â Whisper Cymru.
Mae tocynnau nawr ar werth ar gyfer y digwyddiad fydd yn cael ei gynnal yn theatr Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Hwn fydd digwyddiad mawr cyntaf y diwydiant teledu i gael ei gynnal yn bersonol yng Nghymru ers gwobrau 2020 - a gynhaliwyd ychydig cyn y cyfyngiadau symud cyntaf. Mae’r lleoliad newydd mawr yma ynghyd â sioe hirach yn cynnig cyfle i wneuthurwyr rhaglenni, darlledwyr, a myfyrwyr ymgynnull i ddathlu dwy flynedd hir o waith.
Yn ogystal â dathlu gwaith myfyrwyr, rydym wedi ehangu ein gwobrau diwydiant eleni ac wedi rhoi cyfle i wneuthurwyr rhaglenni gyflwyno enwebiadau ar gyfer 2020 a 2021 i ddathlu gwaith caled talent o Gymru yn ystod cyfnod mwyaf heriol y byd teledu.
Bydd y seremoni yn cael ei arwain gan Stifyn Parri, ac ei chefnogi gan ein Prif Noddwr, cyfreithwyr Loosemores. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r enwebeion a’u cydweithwyr ynghyd am noson o adloniant a dathlu.
Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ynghyd â rhestr o enwebeion yn fuan.
Ewch i swyddfa docynnau Coleg Brenhinol Coleg Cerdd a Drama i archebu'ch tocynnau nawr.