Ennillwyr Gwobrwyon RTS Cymru Wales Awards Winners 2025

Ennillwyr Gwobrwyon RTS Cymru Wales Awards Winners 2025

Twitter icon
Facebook icon
LinkedIn icon
e-mail icon
Saturday, 12th April 2025

Royal Television Society Cymru Wales Awards 2025 with HP: Menna Richards Honoured with Lifetime Achievement as Wales’ Best Shine in Broadcasting

Gwobrau RTS Cymru Wales 2025 gyda HP: Anrhydedd Bywyd i Menna Richards wrth i Oreuon Darlledu Cymru Ddisgleirio

The Royal Television Society (RTS) Cymru Wales proudly announces the winners of the RTS Cymru Wales Awards 2025 with HP, recognizing outstanding achievements in the Welsh television industry. This prestigious event, held at the Royal Welsh College of Music & Drama in Cardiff on Friday 11th April and supported by Creative Wales, brought together the brightest talents in broadcasting to celebrate creativity, innovation, and storytelling across multiple genres.

The evening was co-hosted by Heno presenter Angharad Mair and stand-up comedian Leroy Brito, and showcased remarkable work of industry professionals, from emerging talents to seasoned veterans, who continue to make a significant impact on the Welsh and broader UK media landscape. A number of awards were also presented to outstanding students from the University of South Wales, Bangor University, Screen Alliance Wales, and Cardiff University, recognizing the next generation of Welsh media talent. The awards highlight excellence in news, drama, documentary, entertainment, and factual programming, demonstrating the breadth and quality of content produced in Wales.

Among the night’s winners was Menna Richards, former Controller of BBC Wales, who received the Special Award for Lifetime Achievement, in recognition of her exceptional contributions to the Welsh television industry. The award was presented to Menna by Director of BBC Cymru Wales, Rhuanedd Richards and Doctor Who writer and executive producer, Russell T Davies. Throughout her career, Menna Richards played a pivotal role in shaping Welsh broadcasting, overseeing a period of significant growth at BBC Wales and championing high-quality, locally produced content that resonated with audiences across the nation.

Other standout wins included Gwyneth Keyworth, who took home the Drama Performance Award for her role in Lost Boys & Fairies,Cleddau, which won the Drama Award, and Strike! The Women Who Fought Back, which earned the Factual Documentary Award.

The full list of broadcast winners are:

  • Children’s Award – sponsored by Mojo, awarded to Itopia.
  • Comedy Award – sponsored by Dragon Fire & Water, awarded to The Golden Cobra.
  • Digital Original Award – sponsored by Screen Skills, awarded to Colli Dy Dafod.
  • Drama Award – sponsored by HP, awarded to Cleddau.
  • Factual Documentary Award – sponsored by Bright Branch Media, awarded to Strike! The Women Who Fought Back.
  • Factual Entertainment Award – sponsored by Creative Wales, awarded to Cyfrinachau'r Llyfrgell.
  • News & Current Affairs (Item) Award – sponsored by ITV Cymru Wales, awarded to ITV News – Inside Wales' Reading Crisis.
  • News & Current Affairs (Series) Award – sponsored by Canolfan Darlledu Cymru, awarded to Y Byd ar Bedwar: Y Daith i Rwanda.
  • Sports Documentary Award – sponsored by Jigsaw24, awarded to Welcome to Wrexham.
  • Multiskilled Journalist or Producer Award – sponsored by S4C, awarded to Nick Hartley.
  • Presenter of the Year Award – sponsored by Tinopolis, awarded to Kristoffer Hughes.
  • Production Manager Award – sponsored by Gorilla Academy, awarded to Jon Williams.
  • Rising Star Award – sponsored by Screen Alliance Wales, awarded to Jack Carey.
  • Drama Performance Award – sponsored by BBC Studios, awarded to Gwyneth Keyworth (Lost Boys & Fairies).

 

Mae Cymdeithas Ddarlledu Frenhinol (RTS) Cymru Wales yn falch o gyhoeddi enillwyr Gwobrau RTS Cymru Wales 2025 gyda chefnogaeth HP – dathliad o ragoriaeth yn y diwydiant teledu yng Nghymru. Cynhaliwyd y seremoni nodedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama yng Nghaerdydd nos Wener 11 Ebrill, gyda chefnogaeth Cymru Greadigol, gan ddod a thalentau disglair y byd darlledu ynghyd i ddathlu creadigrwydd, arloesedd a’r gallu i adrodd straeon rhagorol. Mae Gwobrau RTS Cymru Wales yn parhau i hyrwyddo rhagoriaeth ar draws y sector, gan dynnu sylw at waith sy’n adlewyrchu cyfoeth cynnwys sgrin yng Nghymru.

Cafwyd y noson ei chyflwyno gan gyflwynydd Heno, Angharad Mair, a’r digrifwr poblogaidd, Leroy Brito, gan bwysleisio’r gwaith rhagorol a gynhyrchir gan weithwyr proffesiynol ym mhob rhan o’r sector – o fyfyrwyr uchelgeisiol i arweinwyr profiadol sydd wedi llunio’r diwydiant cyfryngol yng Nghymru ac yn y tu hwnt.  

Yn ogystal â’r gwobrau arferol, cafwyd anrhydeddu arbennig i fyfyrwyr o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor, Screen Alliance Wales, a Phrifysgol Caerdydd – yn arwydd o’r doniau eithriadol sy’n blaguro yng Nghymru, gan obeithio am ddyfodol disglair i’r diwydiant.  

Uchafbwynt y noson oedd cyflwyno Gwobr Arbennig am Gyflawniad Bywyd i Menna Richards, cyn-Reolwr BBC Cymru Wales, am ei chyfraniad eithriadol dros ddegawdau i ddarlledu yng Nghymru. Cyflwynwyd yr anrhydedd gan Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, a’r awdur a chynhyrchydd Russell T Davies (Doctor Who). Bu gyrfa Menna yn un o ddylanwad enfawr, gan arwain datblygiad BBC Cymru Wales a hyrwyddo cynnwys lleol o’r radd flaenaf a gafodd effaith ddofn ar gynulleidfaoedd ledled y wlad.  

Ymhlith yr enillwyr eraill roedd Gwyneth Keyworth, a enillodd Wobr Perfformiad Drama am ei rôl yn Lost Boys & Fairies, Cleddau a enilloedd y Wobr Ddrama, a Strike! The Women Who Fought Back a wnaeth lwyddo yn y categori Dogfen Ffeithiol.  

Rhestr lawn yr enillwyr darlledu:

  • Gwobr Plant – noddwyd gan Mojo: Itopia
  • Gwobr Gomedi – noddwyd gan Dragon Fire & Water: The Golden Cobra
  • Gwobr Digidol Wreiddiol – noddwyd gan Screen Skills: Colli Dy Dafod
  • Gwobr Drama – noddwyd gan HP: Cleddau
  • Gwobr Dogfen Ffeithiol – noddwyd gan Bright Branch Media: Strike! The Women Who Fought Back
  • Gwobr Adloniant Ffeithiol – noddwyd gan Creadigol Cymru: Cyfrinachau'r Llyfrgell
  • Gwobr Newyddion a Materion Cyfoes (Eitem) – noddwyd gan ITV Cymru Wales: ITV News – Inside Wales' Reading Crisis
  • Gwobr Newyddion a Materion Cyfoes (Cyfres) – noddwyd gan Canolfan Darlledu Cymru: Y Byd ar Bedwar: Y Daith i Rwanda
  • Gwobr Dogfen Chwaraeon – noddwyd gan Jigsaw24: Welcome to Wrexham
  • Gwobr Newyddiadurwr Amlsgiliau neu Gynhyrchydd – noddwyd gan S4C: Nick Hartley
  • Gwobr Cyflwynydd y Flwyddyn – noddwyd gan Tinopolis: Kristoffer Hughes
  • Gwobr Rheolwr Cynhyrchu – noddwyd gan Gorilla Academy: Jon Williams
  • Gwobr Seren Gyfodiadol – noddwyd gan Screen Alliance Wales: Jack Carey
  • Gwobr Perfformiad Drama – noddwyd gan BBC Studios: Gwyneth Keyworth (Lost Boys & Fairies)

All photos by Celf Calon

You are here

Royal Television Society Cymru Wales Awards 2025 with HP: Menna Richards Honoured with Lifetime Achievement as Wales’ Best Shine in Broadcasting

Gwobrau RTS Cymru Wales 2025 gyda HP: Anrhydedd Bywyd i Menna Richards wrth i Oreuon Darlledu Cymru Ddisgleirio