Huw Jones, Euryn Ogwen Williams, Owen Evans, a Ruth McElroy
Yn dilyn yr Adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac a ysgrifennwyd gan Euryn Ogwen Williams, cynhaliodd RTS Cymru ddigwyddiad ar 19 Ebrill ym Mhrifysgol De Cymru i drafod dyfodol S4C. Roedd Euryn Ogwen Williams yn un o aelodau’r panel mewn trafodaeth yn yr ATRiuM, a gadeiriwyd gan Ruth McElroy, Athro yn y Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru, ynghyd â Phrif Weithredwr S4C Owen Evans, a Chadeirydd S4C, Huw Jones.
Cafwyd cyflwyniad agoriadol gan Huw Jones. Soniodd am ymateb S4C i’r Adolygiad, gan groesawu bwriad Llywodraeth y DU i ryddhau’r darlledwr i gomisiynu cynnwys digidol na chaiff ei ddarlledu. “Mae’r addewid o gylch gwaith newydd - gyda phwyslais ar ddatblygiad digidol a chynulleidfa eang - yn hanfodol” meddai Jones. Cyhoeddodd hefyd gynlluniau i wario £3 miliwn dros y 3 blynedd nesaf i ariannu strategaeth ddigidol newydd, gan ychwanegu y bydd “angen sgiliau newydd yn fewnol, - ffordd newydd o feddwl - sy’n gyrru datblygiadau newydd yn eu blaenau ond ar yr un pryd yn cynnal y sianel linol”. Dywedodd Owen Evans fod technoleg newydd yn cynnig cyfle i S4C ddeall dewisiadau’r gynulleidfa drwy ddadansoddi a phersonoli ei wasanaethau digidol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Colin Nosworthy o Gymdeithas yr Iaith, eglurodd Euryn Ogwen pam fod yr Adolygiad wedi argymell y dylid ariannu S4C yn gyfangwbl drwy ffi’r drwydded, gan gynnwys y grant presennol gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Celfyddydau a’r Cyfryngau, (tua 8 y cant o incwm y sianel ar hyn o bryd). “Yn fy marn i, mae’n ddewis rhwng derbyn cyllid y llywodraeth, a allai amrywio’n flynyddol, a’r sefydlogrwydd a gynigir gan setliad cyllid ffi’r drwydded am gyfnod o bum mlynedd” meddai Euryn Ogwen.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei hymateb ar yr un diwrnod ag y cyhoeddwyd yr Adolygiad, ac mae wedi gofyn i S4C ddarparu cynllun gweithredu manwl erbyn mis Gorffennaf 2018.
(Cyfieithydd: Sian Brown)